Work with us

The advertisement below is for a role for which the ability to communicate in Welsh is an essential requirement.


Teitl y Swydd:

Crëwr Cynnwys



Trosolwg o Libera a Social Media Conference Cymru:

Mae Libera yn asiantaeth greadigol ddigidol ddwyieithog sy’n arbenigo mewn hysbysebion digidol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Ers sefydlu yn 2023, mae Libera wedi gweithio gyda nifer o gleientiaid cyffrous gan gynnwys BBC Studios, Tinint, BBC Cymru Wales, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mentera, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac eraill.


Libera hefyd yw trefnwyr Social Media Conference Cymru. Cynhaliwyd Social Media Conference Cymru am yr ail dro ym mis Medi 2024, pan ddaeth 330 o bobl oedd yn gweithio ym maes marchnata at ei gilydd yn Arena Abertawe i glywed gan arbenigwyr yn y maes ac i rwydweithio. Bydd SMC Cymru yn dychwelyd yn 2025 ac yn tyfu. Dyma gyfle arbennig i chwarae rhan allweddol yn nhwf un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant marchnata yng Nghymru.


Trosolwg o’r rôl:

Rydym yn awyddus i recriwtio Crëwr Cynnwys i greu cynnwys ar gyfer cleientiaid. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i fod yn drefnus, y gallu i fod yn greadigol, dealltwriaeth o’r dirwedd ddigidol a chyfryngau cymdeithasol, a gyda sylw i fanylder, a bydd yn gallu gweithio’n gyflym fel rhan o dîm bach, yn ogystal â gweithio’n annibynnol.



Cyfrifoldebau allweddol:



Rhinweddau a Sgiliau Angenrheidiol:



Profiad a Sgiliau Dymunol:



Beth allwn ni gynnig?


Y Cynnig:

Mae Libera yn gwmni 4 diwrnod yr wythnos felly mae llawn amser yn gyfystyr â gweithio 4 diwrnod yr wythnos.


Sut i Wneud Cais:

Anfonwch ebost at helo@liberaagency.com gyda’r canlynol:

Dyddiad Cau: 5:00PM, 5 Tachwedd 2024